Mair Tomos Ifans

Mair Tomos Ifans fydd yn cyd-hwyluso Sesiwn y Sêr. Mae Mair, sy'n byw yng Nghanolbarth Cymru, yn gyfarwydd sy’n adrodd chwedlau, straeon a hanesion traddodiadol o bob cwr o Gymru. Mae'n pori'n helaeth ym maes diwylliant gwerin Gymru yn ei gwaith fel adroddwr straeon, cantores, actores a saer geiriau. Mae ei pherfformiadau'n aml yn cynnwys datganiadau o ganeuon ac alawon traddodiadol ar delyn fach ben-glin ac weithiau ar y delyn deires.

Bydd Mair yn hwyluso'r rhan fwyaf o'r sesiynau ymarferol yn Sesiwn y Sêr, gan ddefnyddio ei gwybodaeth am fythau a straeon gwerin, gan gynnwys casgliadau o fytholeg Roegaidd sydd wedi cael eu cyhoeddi yn y Gymraeg ond anaml iawn y maent yn cael eu clywed drwy gyfrwng y Gymraeg.