Sarah Lianne Lewis

Mae Sarah Lianne Lewis yn gyfansoddwr o Gymru sy'n cyfansoddi ar gyfer y neuadd gyngerdd a'r llwyfan.

Mae hi’n plethu soniaredd anarferol yn seinweddau beiddgar sy'n cyfareddu ac yn herio cynulleidfaoedd, gan gofleidio harddwch y cyfarwydd tra'n ceisio datgelu'r annisgwyl. Mae ei chyfansoddiadau wedi ennill canmoliaeth am eu cerddoriaeth gain ond pwerus, ac wedi’u perfformio gan ensembles blaenllaw gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Frenhinol yr Alban, Quatuor Bozzini, yr Opera a Bale Brenhinol, Cerddorfa Ffilharmonia, Ensemble UPROAR, Orchestre National de Bretagne, a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Creodd Sarah hanes yn 2020 fel y fenyw gyntaf i gael ei phenodi'n gyfansoddwr preswyl gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC (2020-24). Mae ei gwaith wedi derbyn sawl gwobr a chydnabyddiaeth, gan gynnwys Gwobr George Butterworth (2018), Gwobr Paul Mealor ar gyfer Cyfansoddwyr Ifanc, Urdd Gerddoriaeth Cymru (2021), ac yn fwyaf diweddar Gwobr y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol ar gyfer Cyfansoddi ar Raddfa Siambr (2025) am ei gwaith 'letting the light in'.