Daniel Morden

Mae Daniel Morden yn storïwr llafar o Gymru sydd wedi ennill Medal Gŵyl y Gelli ac sy'n byw ac yn gweithio yn y Fenni.

Mae e hefyd yn awdur cyhoeddedig arobryn. Mae Daniel wedi ennill adran Saesneg gwobrau Theatr na n-Og Cyngor Llyfrau Cymru ddwywaith, yn gyntaf yn 2007 am Dark Tales from the Woods, yn seiliedig ar chwedlau gwerin Cymru, ac yna yn 2013 am Tree of Leaf and Flame, casgliad o straeon sy'n ail-gyflwyno’r Mabinogi. Mae e wedi perfformio ledled y byd, mewn ysgolion a theatrau, mewn gwyliau ac ar y radio, mewn llefydd megis y National Theatre, y Barbican, y Getty Centre, Gŵyl Awduron Sydney a'r Albert Hall. Fe enillodd cydweithrediadau Daniel â Hugh Lupton ar chwedlau Groegaidd Wobr y Gymdeithas Glasurol.

Yn 2023, gwahoddwyd Daniel fel artist gwadd y rhaglen Saesneg i Festival Interculturel du conte de Montreal, lle mae diddordeb cryf, parhaus mewn straeon am y sêr.